Monday 7 September 2015

Archif/Archive



Does Dim Gair Cymraeg am RANDOM


Gallwch wrando ar 19 pennod o fy mhodlediad fan hyn (http://ddgcar.blogspot.com/).

Bydda i'n dychwelyd ym mis Medi gyda llwyth o westeion gwych.

Tan hynny... ta-ti-bai.



Eisteddfod Genedlaethol Bae Caerdydd 2018
Am wythnos!

Cafodd fy nrama lwyfan gyntaf, RHYBUDD: IAITH ANWEDDUS, ymateb ffafriol iawn yn ystod yr wythnos, ac mae'r diolch am hynny yn bennaf i'r cyfarwyddwr, Hanna Jarman, a'r cast, Mari Beard, Morgan Hopkins a Sion Alun Davies.

Diolch i bawb ddaeth i wylio ac i griw technegol Cwmni Fran Wen am yr holl gymorth.











Dydd Sadwrn 4 Awst 2018
Diolch i bawb ddaeth i lansiad PYRTH UFFERN yn yr Hen Lyfrgell a diolch arbennig i Lowri Cooke am fy holi ac i Lefi a'r Lolfa am brynu cwpwl o beints i fi!

Mae'r llyfr ar gael i'w brynu fan hyn (https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784615543/pyrth-uffern).



DYDDIAD I'CH DYDDIADUR


Lansiad PYRTH UFFERN, unfed nofel ar ddeg Llwyd Owen, yn Yr Hen Lyfrgell, Caerdydd.

Dydd Sadwrn 4 Awst 2018, 3-4pm

Cyfle i glywed y beirniad diwylliannol, Lowri Cooke, yn holi'r awdur am ei nofel newydd a'i yrfa yn gyffredinol.

Croeso i bawb. Mynediad am ddim.








Cwrs Undydd: Dechrau o’r Dechrau





Cwrs Undydd: Dechrau o’r Dechrau

Dydd Sadwrn 21 Hydref 2017

Tŷ Newydd, Llanystumdwy


Maen ‘nhw’ yn dweud fod gan bawb nofel yn llechu ynddynt. Ond mae meddwl am syniad yn un peth, tra bod datblygu’r syniad yn nofel gyfan yn stori dra wahanol.

Ar y cwrs undydd hwn, bydd Llwyd Owen yn rhannu ei brofiadau o ddatblygu egin syniad yn nofel orffenedig gyda chi, yn ogystal ag ambell i reol sy’n ganolog i’r ffordd y mae’n gweithio. Gan ddefnyddio’i nofelau ei hun fel man cychwyn, bydd yr awdur o Gaerdydd yn eich rhoi ar ben y ffordd ac yn esbonio sut gall un olygfa neu gymeriad dyfu i fod yn stori gynhwysfawr.

Felly, os oes gennych chi lyfr yn llawn nodiadau, neu ddim ond breuddwyd o droi cymeriad neu olygfa gofiadwy yn rhywbeth mwy sylweddol, dewch ar y cwrs hwn a gadewch i awdur profiadol eich helpu i droi ffantasi feddyliol yn realiti llenyddol.

Mwy o fanylion fan hyn: http://www.tynewydd.cymru/cwrs/cwrs-undydd-dechrau-dechrau/


Diolch i bawb a ddaeth i lansiad TAFFIA yn yr Hen Lyfrgell









Bydd TAFFIA, y ddegfed nofel i fi ei chyhoeddi mewn deg mlynedd gyda’r Lolfa (bit.ly/1SMq5zh), yn cael ei lansio yn yr Hen Llyfrgell (bit.ly/21qW4oU), Caerdydd am 3pm ar ddydd Sadwrn 16 Ebrill 2016, yng nghwmni Carwyn Ellis (@colorama_sound), arweinydd un o fy hoff fandiau yn y byd, Colorama (bit.ly/1pSoTJk).

CROESO I BAWB.


Dyma glawr ardderchog y nofel, gan y dylunydd graffig, Steffan Dafydd (bit.ly/1haOWoB).




Delweddau o lansiad Y DDYLED, Tachwedd 2014











Adolygiad Gwales o Y DDYLED

Ffrwydrodd yr enfant terrible Llwyd Owen i’r byd llenyddol Cymraeg yn 2006 gyda Ffawd, Cywilydd a Chelwyddau, ei nofel gyntaf gignoeth â’i hiaith goch a’i chymeriadau annymunol – cyfrol wahanol iawn i'r nofel draddodiadol Gymraeg. Erbyn hyn, ag yntau’n agosáu at ganol oed, mae ei ddicter, o bosib, wedi pylu ryw ychydig ac efallai ei fod yn anodd i unrhyw awdur gadw’r fath fin ac angerdd chwyrn dros gyfnod hir o amser. Ond o ddechrau’r nofel hon, mae ochr ddychanol Llwyd, ei hiwmor a’i awydd i roi pin go finiog yn swigen y pwysigion, yn enwedig pwysigion Cymraeg, yn dal yn amlwg. 

Maen nhw’n dweud y dylai awdur ddechrau wrth ei draed, a nofel yw hon am nofelydd o’r enw Llwyd Owen sy’n cael ei adnabod fel enfant terrible nofelau Cymraeg ... ond mae Llwyd y nofel wedi profi llwyddiant byd-eang gyda nofelau poblogaidd Saesneg dan yr enw Floyd Ewens. Mae ysgrifennu am nofelydd Cymraeg yn rhoi cyfle i Llwyd yr awdur drafod y byd llenyddol yng Nghymru, gan dynnu ambell flewyn o sawl trwyn. Rhan fwyaf doniol y nofel yw’r penwythnos anffodus lle mae Llwyd yn ei gael ei hun yn cynnal cwrs ysgrifennu creadigol yng nghanolfan Tŷ Newydd, a cheir golygfa gofiadwy wrth iddo groesawu’r darpar-lenorion, fydd yn peri i sawl un wingo. 

Ond er y bydd caredigion llenyddiaeth yn gwenu ar hyn, cyfeiriadau wrth fynd heibio, neu gefndir i’r nofel, yw’r byd llenyddol ar y cyfan. Prif stori’r gyfrol yw cyfeillgarwch Llwyd â dau fachgen wrth iddo dyfu i fyny. Mae’r Llwyd ifanc yn fachgen swil, clyfar, sy’n cael ei fwlio yn yr ysgol gynradd nes daw bachgen newydd i ymuno â’r dosbarth. Mae’r nofel yn torri’n ôl a blaen rhwng y presennol a hanes blaenlencyndod y bechgyn, a daw’n amlwg fod Llwyd yn teimlo fod ganddo ddyled foesol i un o’i gyfeillion, a goblygiadau’r ddyled honno sy’n arwain y stori. 

Cryfder Llwyd Owen yw ei arddull. Mae’n ysgrifennu’n rhwydd ac yn amrwd iawn ar adegau, ond mae hynny’n gweddu i’r cymeriadau a’r math o stori yw hi. Mae’n mwynhau treiddio i isfyd anghyfforddus a gadael i bethau digon annymunol ddigwydd i’w gymeriadau. Dyw cymeriad Llwyd yn y nofel ddim yn hoffus o gwbl – mae’n ddiog ac yn hunanol a dyw’r darllenydd ddim yn closio ato, ond mae hynny eto’n nodweddiadol o’i wrtharwyr yn ogystal â’r cymeriadau eraill. 

Mae cyffuriau a rhyw yn chwarae rhan bwysig iawn yn y stori, ac mae’n amlwg fod Llwyd – yr awdur – yn mwynhau ysgrifennu am y pethau hyn, i’r graddau fod perygl y gallai fynd yn syrffedus ar ôl ychydig. Wn i ddim a oes gen i gymaint â hynny o ddiddordeb yn yr hyn y mae bechgyn yn eu harddegau’n ei wneud â chyffuriau a rhyw wrth dyfu fyny, ond mae gen i well syniad erbyn diwedd y nofel. Ond er yr hoffwn i fod wedi darllen mwy o ddychan am y byd llenyddol neu’r ‘sefydliad’ Cymraeg, a llai am bechodau’r corff, mi gadwodd y stori a’r arddull fy niddordeb hyd at y diwedd anochel.

Catrin Beard










South Wales Echo (Wales Online) article concerning THE LAST HIT: http://bit.ly/1qc814M



SkyLightRain.com article: THE ORIGINS OF THE LAST HIT http://bit.ly/1FsZVYh





Welsh American Bookstore review of THE LAST HIT http://bit.ly/1LTjqxR

Try as I might to avoid writing 'fanzine' style reviews for this site it is difficult to avoid playing the role of 'cheerleader' where Llwyd Owen is concerned. This is the second of his six Welsh language novels published by Y Lolfa to be translated into English and one can only hope that the other three will follow shortly. Whilst 'Faith, Hope & Love (published in English translation in 2010) displayed all the hallmarks of a classic tragedy this book is much lighter in tone. 'The last Hit'  has been described  as a feelgood novel and certainly there are happy endings though not everyone comes out of it well.  In some ways it resembles a Welsh Western. Our hero Al Tubbs gets the girl and revenge against his evil stepfather in a final showdown in which he exacts 'moral' retribution for the years of abuse and deceit he has suffered at his hands.

'The Last Hit' boasts a full complement of sleazeball characters who would be at home in the pages of any Irvine Welch novel but it is not without humour. In fact it is intensely and darkly comedic throughout. Witness this brief exchange before Tubbs and his friend Boda visit Vexl, a Barry island pimp, to punish him for scarring his girlfriend.

“Be careful," Petra pleaded like the lead actress in a hammed-up Hollywood melodrama. "He's off his 'ead and he doesn't care about anythen." 

"I fucking hate nihilists," retorted Boda, while Tubbs turned to face her and looked down into her deep blue eyes.


Earlier in the same chapter, shortly after meeting Petra for the first time we find Tubbs speculating that she might have been named after the famous Jordanian city and archaeological site. She responds:-

"Oh, Ok. I understand now," ......"But I dont think my pares eva went to Jordan. The people of the Gurnos dont get much furtha than Asda, down Murtha. Ponty at a a stretch. And anyway, I was named after the Blue Peter dog."

The many humorous touches enrich a  narrative which moves at a breathless pace as it builds towards its grisly climax. A real page turner, this is a book that you'll probably finish in a day and be left wanting more. An unreserved five star recommendation.





Gwales Review of THE LAST HIT

If you're easily offended by swear words and very strong language then you should probably move on right away – because this is a book that will leave you reaching for the nearest bin, muttering about the state of society, and pitying the poor mother of young Llwyd Owen. This author is not a man bound by subtlety of subject! 

Opening with a particularly brutal murder scene with echoes of the wonderfully descriptive Niall Griffiths at his finest skull-crushing moments, this book has everything that has made the seedy underbelly of Wales such a compelling subject in some contemporary fiction: torture scenes so graphic they cause involuntary retina spasms, prostitutes dripping rancid with disease, and ghastly, fetid characters who lurk in the shadows, so full of hate, self-loathing and cruelty that you struggle to imagine them owning a heart… 

But don’t run away with the idea that Owen has simply painted an exotic portrait of pain and misery merely for effect. Amidst all this glorious gore, a carefully crafted plotline appears – succulent storylines wending their way inextricably together, asking a lot of difficult and searching questions of the reader. The key characters have an almost cavernous depth to them, with protagonist Tubbs an excellent example of a conflicted character whose difficult emotional background invites readers to hate, love, pity and celebrate in almost equal measure. 

And it is exactly with these evocative characters, the effortless storylines that melt together with every enthusiastic page-turn and a bottle full of pure unadulterated filth that Llwyd has crafted something that comes deliciously close to a modern classic. Only occasionally letting himself down with dialect that at rare moments stutters from his characters in less-than-entirely-believable manner, this is a spellbinding novel – and one I would heartily recommend! 

‘Not everyone deserves a happy ending’ warns the front cover… Yeah, sure, but Llwyd Owen certainly does! 

Jack Clothier 














Newport legend Dai Ablo (http://bit.ly/1i7K1Ob), one of my biggest fans, reading THE LAST HIT on holiday in Majorca:



Adolygiad MERCH Y DDINAS (Lowri Haf Cooke) o HEULFAN (Taliesin, Gwanwyn 2013)http://bit.ly/1JOF0CP

Mae hi’n flwyddyn ers i gymeriadau Caryl Parry Jones ac Emyr Wyn- Glenys a Rhisiart ap Rhydderch- daro ar fformiwla berffaith i gipio teitl gwobr Cân i Gymru,  wrth apelio’n daer yn eu hanthem ddychanol ‘Cilfan yn yr Haul’ am estyniad ar eu cartre’ crand yn un o faestrefi gogleddol y brifddinas
Ers hynny, cyfareddwyd cynulleidfaoedd Caernarfon a Chaerdydd gan Llanast! gan gwmni Theatr Bara Caws- trosiad campus Gareth Miles o ddrama ddeifiol a hynod ddigri Yasmina Reza, Le Dieu du Carnage, sy’n datgelu’r rhagrith sydd wrth wraidd cymdeithas waraidd y Cymry Cymraeg pan ddaw anrhefn pur i darfu ar y bywyd braf, breintiedig.

A jyst mewn pryd i lenwi hosanau Nadolig ledled y wlad, cyhoeddodd Llwyd Owen ei nofel ddiweddara i ddiddanu a dychanu’r crachach. Fel Rhisiart a Glenys gynt, a chymeriadau Llanast!, yr awydd i ddringo’r ysgol gymdeithasol sydd yn sail i helbul Heulfan–  seithfed nofel yr awdur o Gaerdydd, sy’n cydio o’r cychwyn cyntaf.
Mae’r gyfrol yn ddilyniant i’w bedwaredd nofel , Mr Blaidd (2009), a osodwyd yn y dyfodol agos yn ninas ddychmygol Gerddi Hwyan- metropolis a dyfodd o gwmpas stiwdios Valleywood ar gyrion Pen-y-bont ar Ogwr, lle mae pob haen o’r gymdeithas yn medru’r Gymraeg. Serch hynny, dim ond ambell gyfeiriad a geir at ddigwyddiadau a chymeriadau’r gyfrol gynhyrfus honno,  a chyflwynir cast cwbl newydd yn Heulfan.

Sefydlir o’r dechrau brif ddihiryn y  nofel, sef perchennog cwmni adeiladu mwyaf llwyddianus Gerddi Hwyan, Gari Caradog. Yn dilyn marwolaeth ei frawd ganol y Nawdegau, rhaid gofalu am ei ddau nai amddifad, a hynny yn erbyn ei ewyllys. Diolch i ffeithiau moel  y bennod gyntaf down i ddeall ei anian go iawn;  awgryma’i ddefnydd o steroids a’i hoffter o lyfrau SAS Andy McNab ei fod yn nob o’r radd flaenaf, ond cawn hefyd gipolwg ar ei blentyndod.

Yn fuan wedi hynny cawn ein trawsblannu ddau ddegawd i’r dyfodol, lle mae’r brodyr Morgan a Prys Caradog yn gweithio’n galed ar estyniad diweddara un o gartrefi moethus Gerddi Hwyan, gydag Wncwl Gari yn fastard o fos arnynt.  Y mae’r Morgan cyhyrog- ‘Bendi-blydi-geidfran’ o foi- yn briod â Catrin ac yn ddigon bodlon ei fyd , tra fod ei frawd hyn Prys ‘mewn stasis, wedi’i adael ar ôl gan y byd o’i gwmpas’; yn benodol, gan Mrs Gari Caradog- sef Ceri, ei gariad cyntaf.
Portreadir haen ucha cymdeithas y dre yn gelfydd iawn, wrth i’r Clwb Golff- a’r ras am ei gapteiniaeth- chwarae rôl ganolog ym mywydau cleientiaid Caradog Constructions. Ond daw cwmwl du i gysgodi heulfanau Gerddi Hwyan, wrth i gyfres o ladradau blagio’r gymuned, gan sbarduno’r ditectifs Aled Colwyn a Richard King i gynnal archwiliad brys er mwyn dod â diwedd i ddegawd o ddirgelwch.
Yn ogystal â hyn, cydblethir cyfeillgarwch clos Catrin a Ceri, sy’n rhedeg cwmni harddwch Curls & Claws gyda’i gilydd. Dyw bod yn briod i’r bos ddim yn fêl i gyd, fel y tystia’r cleisiau cudd dros gorff eiddil Ceri. Wrth i’r stori boethi, a’r trais ddwysáu, daw’r straeon i gyd ynghyd ar gyfer diweddglo dramatig ym mynyddoedd Eryri.
Fel yn achos pob cyfrol arall gan yr awdur o Gaerdydd, mae’r cyfuniad o gymeriadau credadwy a stori dda yn hoelio sylw’r darllenydd. Ond mae’r hwyl gaiff yr awdur gyda’r iaith Gymraeg yn ei ddyrchafu i ddosbarth uwch na llenyddiaeth-i’w-lluchio-i-ffwrdd.
Fel yn achos pob awdur, mae’n wir y gor-ddefnyddir ambell i air (gyda ‘dychlamu’ a ‘gwarfag’ yn ffefrynnau amlwg gyda’r awdur ar hyd y gyfrol hon ac eraill) ac, yn naturiol, mae na regi rownd y rîl a disgrifiadau di-ri’ sy’n greadigol o gignoeth. Yn wir, y tro yma, golygfa o ŵr yn fantaseiddio am ei ei wraig ei hun tra’n mwynhau cawod sy’n cipio’r ‘Bad Sex in Fiction Award’ Cymraeg ar gyfer 2012- ond siawns  y byddai Tipper Gore ei hun yn fwy na bodlon â label amlwg y ‘Rhybudd Iaith Anweddus’ erbyn hyn, sydd yn bresenoldeb ar bob un o gloriau cefn yr awdur.
Ond yr hyn sydd mor ddifyr am y gyfrol hon yw natur hygyrch ei naratif, ac anwyldeb amlwg yr awdur tuag at ganran helaeth o’i greadigaethau. O’r ditectif dan bwysau sy’n ddyn teulu i’r carn, hyd at y cyffurgi trist a thorcalonnus, heb sôn am y rhestr faith o ddioddefwyr dosbarth-canol-uwch, gyda’u diogelflychau a’u  decking a’u darluniau gan Kyffin ac Esther Eckley, heb anghofio’u grogs Viv Richards, Robert Norster a Neville Southall; dangosir dealltwriaeth lwyr o fywyd pob un, gan olygu nad oes neb, ag eithrio Caradog y cnaf, yn ymylu ar fod yn gymeriad cartwnaidd.

Pe bai bywgraffwyr y dyfodol yn benderfynol o ganfod y gwir am Llwyd Owen , does dim ond rhaid darllen ei lyfrau. Wrth ddychanu’r crachach Cymraeg, mae e’n datguddio ei fywyd ei hun wrth iddo wireddu ‘breuddwyd wlyb y dosbarth canol’.  Elfen arall, hollbresennol  ym mhob un llyfr gan Llwyd yw trac sain ei fywyd, o’i arddegau yn y Nawdegau hyd at ei dridegau canol diweddar fel dyn teulu; heb sôn am ei hoff ‘sbardiau’, sy’n chwarae cameo Hitchcock-aidd ym mhob un llyfr; y classic Adidas Samba.

Ceir hefyd ddwsinau o enghreifftiau o ffrindiau bore oes, athrawon ysgol, a hyd yn oed ei rieni ei hun,  a esgorodd ar lu o enwau cymeriadau. A does dim angen ymdrechu rhyw lawer i ddyfalu pwy oedd cwmni’r awdur, a ysbrydolodd yr olygfa olaf un yn y gyfrol hon, ar grwydr fynyddig sy’n arwain at dafarn y Ring yn Llanfrothen.
Ond ymysg y cyfeiriadau cysurus a chyfarwydd hyn y mae yma lenor sy’n llwyddo bob tro i oresgyn disgwyliadau’r darllenydd.

Lowri Haf Cooke













Adolygiad Gwales o UN DDINAS DAU FYD (http://bit.ly/1UBbFEg)

Mae yna hysbyseb teledu sy’n hyrwyddo rhyw gynnyrch neu’i gilydd drwy frolio ei fod e’n gwneud yr union beth sy’n cael ei addo ar y tun. Yn hynny o beth mae teitl nofel Llwyd Owen, Un Ddinas Dau Fyd yn gwireddu’r union addewid a wneir ar y clawr. Yr hyn a gawn ganddo yw dwy ochr un ddinas, a’r ddwy, yn eu gwahanol ffyrdd, yn afiach. 

Mae Llwyd Owen yn un o’r awduron cyffrous hynny sydd, gyda Dewi Prysor ac un neu ddau arall, yn perthyn i’r garfan honno yng Nghymru heddiw sy'n llunio llenyddiaeth real, lle mae’r sefyllfaoedd yn gignoeth, yr arddull yn braff a’r iaith a ddefnyddir ymhell o fod yn Gymraeg safonol. Fel un sy’n blismon iaith, gallasech feddwl y byddwn i’n gwgu ar y fath arddull fwngrelaidd, ond yn rhyfedd iawn mae’r troi yn achlysurol at ddeialog Saesneg, neu iaith gangsteraidd yn taro deuddeg yn y gweithiau hyn. Yn wir, prin sylwi wnes i ar y newid iaith yma ac acw yn y nofel hon gan fod yr awdur yn gwneud hyn i bwrpas. 

Mae Llwyd Owen ei hun wedi disgrifio’i arddull fel un sy’n adlewyrchu’r iaith y bydd yn ei chlywed a’i siarad bob dydd. Teimla fod yr iaith draddodiadol lenyddol yn tueddu i ddieithrio darllenwyr oddi wrth lyfrau Cymraeg. 

Prif gymeriad y nofel i mi yw Caerdydd. Ond fel y dywed y teitl, mae yma ddwy Gaerdydd yn bodoli ochr yn ochr, neu’n hytrach un ar ben y llall. Islaw’r byd dosbarth canol sidêt llygredig mae yna is-fyd, byd o anobaith ac un sy’n anodd iawn dod allan ohono. 

Dilyniant yw’r nofel i’w gyfrol flaenorol, Ffawd, Cywilydd a Chelwyddau. Ac yn dal i gynrychioli’r byd cyfryngol mae Emlyn-Eilfyw Jones, sydd â’i fywyd personol yn llanast. Mewn cyferbyniaeth lwyr cawn Rod, sy’n brwydro’i ffordd allan o anobaith stad tai cyngor yn Nhrelái gan ddianc drwy ffenest fach ei gamera fideo. Ei freuddwyd yw troi ei gefn ar y trais a’r troseddu, yr gwerthwyr cyffuriau a’r gangiau. Rhywfodd mae llwybrau’r ddau gymeriad yn croesi gyda chanlyniadau erchyll. 

Mae’r plot yn syml. Stori yw hon am afael y gorffennol ar ein presennol. Does dim dianc. Mae hi’n nofel am wallgofrwydd. Ac mae yna fwy nag un math o wallgofrwydd. Y gwahaniaeth mawr rhwng Emlyn a Rod yw bod gan y naill uchelgais a'r llall freuddwyd. Ond mae uchelgais Emlyn yn troi’n hunllef. 

Mae hon yn nofel hawdd iawn i’w llyncu, ond un gwbl anghyffyrddus i’w threulio. Mae Un Ddinas Dau Fyd yn llond ceg o realaeth go iawn. 

Lyn Ebenezer 













Gwales Review of FAITH HOPE & LOVE

Compelling and emotionally affecting, Owen’s stunning new novel is a stark picture of the humiliation, hurt and potential pitfalls faced by those one might describe as ‘society’s underdogs’. Cue Alun, the painfully shy and retiring mummy’s boy who has taken to life’s slings and arrows (mainly unleashed by his cruel elder brother) to heart and sought to hide away from them by disappearing from society, taking permanent refuge with his parents. 

The perfect model of a kindly and loving misfit then. One’s immediate reaction to Al ensures that Llwyd’s intriguing narrative technique of switching chapters from first Al as a loving 30-year-old to Al the jailbird (3 years ahead) really shocks, as the fearful and controversial truth as to why this gentle boy is sent down is slowly revealed . . . Owen unapologetically tests the ideas of faith, morality and justice as the tender sheen of hope is so often applied, but even more regularly scratched painfully away. 

It is the pace, unlikely plot-twists and revelations, as well as the heart-breaking social questions this book offers that are most appealing to the reader, and leave you consistently questioning your own judgements on key characters. It is difficult to say much more without spoiling the carefully unfolding plot, which reveals, suggests and denies in equal measure from chapter to bulging chapter. But I can tell you that if you can cope with literary heartbreak and tough, thought-provoking subject matter – you really must get hold of a copy of Faith, Hope and Love
Jack Clothier 



Publisher’s Weekly review of FAITH HOPE & LOVE

Owen, winner of the 2007 Welsh Book of the Year Award, makes his English-language debut with this scalding variation on his countryman Dylan Thomas's "Do Not Go Gentle into That Good Night." At age 30, Alun Brady is still living at home with his parents in Cardiff. A degrading sexual initiation at the spiteful hands of his successful surgeon brother's wife, trouble with the Inland Revenue, and a role in a bank heist all serve to undermine his comfortable middle-class life. Meanwhile, his terminally ill grandfather, Paddy, who's desperate for release, begs Alun to help him die. Owen's savage indictment of Britain's welfare programs and its socialized medicine is strong stuff by itself, but it's the tragic personal story of Alun as he spirals full of self-inflicted guilt toward an ironic, violent conclusion that packs the real emotional punch. Owen unflinchingly reveals how easy it will be to "rage, rage, against the dying of the light." 


Americans love author’s first English-language novel(http://bit.ly/1g9bDR1)

He has been described as Wales’ answer to Irvine Welsh.
Now, Cardiff author Llwyd Owen has been so successful in the US, extra copies of his books have been printed to cope with demand.
Llwyd’s first English-language novel, Faith Hope And Love, received a rave review in American literary journal Publishers Weekly.
Within three months of the book being printed, publisher Alcemi has had to reprint due to the demand across the Atlantic.
The story, set in a middle-class suburban Cardiff, is an adaptation of Llwyd’s second Welsh novel that won him the Welsh book of the year award in 2008.
The author, who lives in Rhiwbina with his wife Lisa and their two daughters, Elian and Syfi, has already had four highly acclaimed Welsh-language novels published.
“It seems surreal that so many Americans would enjoy what is very much a book about life in Cardiff,” said Llwyd.
But the book does tackle some social taboos, such as assisted suicide.
“That part of the story was inspired by my grandmother who died very slowly in a bed in Rookwood Hospital in Cardiff. It was a difficult time for her and she wanted her life to end. You can’t help ponder the situations that people are put in.”
He puts the US interest in his book down to the American fascination with its Celtic forefathers, but said his success may be due to a review which compared him to Dylan Thomas.
“It is extraordinary how the book has sold so well in America. They are relatively modest numbers, the first run was somewhere in the region of 2,000 copies but they sold out within 12 weeks and had to go to reprint.”
His rising cult following in Wales stems from his lively use of street language and his exploration of some of society’s less visible characters – prostitutes, pimps and criminals.
Cardiff provides the inspiration for a lot of his work.
The story takes in Cathays Cemetery where main character Alun Brady is at one stage forced to live. The Three Arches pub, where Llwyd worked, also gets a mention.
When he is not writing, he works as a part-time translator. But Llwyd said that while his recent success was a shot in the arm, the market for fiction in the UK was tough to break into.
“The English-language publishing industry is so saturated that it is really difficult to get a foothold in the market,” said 34-year-old Llwyd.
“Being compared to Dylan Thomas in America, while obviously very flattering, is actually more to do with the romantic perception and stereotypes Americans have of Welsh writers.
Garmon Gruffudd, of publisher Y Lolfa, said the sales were a welcome boost for Welsh authors.
“The book has sold more copies in the US than in Britain. It’s great to see his first attempt in English getting the praise he deserves. It is inspiring for upcoming talent in Wales.”


David Hebblethwaite on Three Welsh Novels in Translation -  (http://bit.ly/1qw0Hij)

I’ve been aiming to incorporate my main reading interests in these columns for Fiction Uncovered. Today, it’s the turn of fiction in translation: I’ve chosen to look at three Welsh-language novels which won the Wales Book of the Year award and have since been translated into English. There was no great design in choosing these three particular titles, but I’ve found that they share a concern with the interaction of place and character, in their own individual ways.
The title characters of Martha, Jack & Shanco by Caryl Lewis (first published as Martha, Jac a Sianco, 2004; translated by Gwen Davies, 2007) are three siblings living on their family farm, Graig-ddu. The tone of the novel is set by its opening scene, where the three go out at night to find out who or what has been wounding one of their cows. They discover that, in fact, the cow has gained a taste for her own udders, to the point of tearing them off. That’s only the first example of how the outside world is beyond the siblings’ control, and of the stark realities of their life on the farm.
Graig-ddu as a domain is key in Lewis’s novel; it is the siblings’ inheritance, their commitment, and in a sense their prison. When other characters impinge on the protagonists’ lives, we often see the effect in terms of how the farm is changed. When Jack enters a relationship with a woman named Judy, Martha starts to notice her possessions in the house: “Gradually her home’s landscape was coated with a drift of Judy’s things.” And when Martha tells Gwynfor, the man she loves, that she cannot be with him because of the farm, she preserves his mark on the landscape by placing a washing-up bowl over his footprint.
Gwen Davies’s translation creates sharp breaks between the chapters, diluting the sense of forward motion, and emphasising the unchanging nature of Graig-ddu life; time and again, the siblings return to the farm routine, because that is what they have, and what must be done. The thing is, of course, that time does move forward, and life is not unchanging. As the harshly effective ending shows, it takes only a moment for the world to be disrupted irrevocably.
The Life of Rebecca Jones by Angharad Price (first published as O! Tyn y Gorchudd, 2002; translated by Lloyd Jones, 2010) is also a novel about a family tied to their farm, but this time spanning the twentieth century. As an old woman, Rebecca Jones (the author’s great-aunt) looks back on her life, which she has spent in the valley of Maesglasau. She is profoundly connected to this place: “Cwm Maesglasau is my world. Its boundaries are my boundaries.” She knows that, when she dies, she will have given her life to the valley – but, conversely, the way of life that she represents will also pass from Maesglasau.
As a character, Rebecca is more witness than actor; her brothers leave (and in some cases return to) the farm, but she remains, eventually alone. Even when it seems that Rebecca might have found someone to love, in the shape of an Italian prisoner-of-war who comes to stay for a few months, she only imagines the life they might have had together. By the end of her days, Rebecca seems at ease with her role as custodian of Maesglasau.
For that reason, the tone of Price’s novel does not strike me as one of sorrow – melancholy, yes, but also celebratory in its way. Though the bounds of Rebecca’s existence may be limited geographically, they are vast in other ways. Throughout her life, Rebecca is a keen reader; she peppers her account with quotations from poetry and other texts. She also comments: “I sometimes think that the act of remembering life gives more pleasure than living itself.” Lloyd Jones’s translation gives Rebecca’s account a similar texture whether she’s focusing on memory, place, text, or experience. This underlies that, for her, those are all equally valid parts of life; and so Rebecca can look back over her days and see a life well lived.
Where Rebecca Jones remains in a familiar place for all her many years, Alun Brady – the protagonist of Llwyd Owen’s Faith, Hope & Love (first published as Ffydd Gobaith Cariad, 2006; translated by the author, 2010) – becomes sharply dislocated from the world he knows. We meet Al as he leaves prison, to find that he may have gained freedom, but has lost a certain amount of stability in the process: it’s a new millennium; the Cardiff he knew has changed; and he’s surrounded by new technology. With his parents dead, and feeling estranged from his brother Will, Al falls in with Floyd, a cemetery caretaker who dabbles in a few dodgy activities on the side.
Chapters on Al’s current present alternate with an account of life before prison, where we see a rather different Alun Brady: a man with clear moral convictions, still living with his parents at age 30, who looks on at Will and his happy young family, and sees someone who made it in spite of his behaviour, while Al is convinced that he’s the one who has always done the right thing. It’s hard to see initially how this Al could ever end up in jail. But events take a turn when Al’s dying grandfather Paddy moves in – and he’s not the only visitor who will change Al’s life.
By structuring the novel so that Al’s pre- and post-prison life run in parallel, Owen focuses our attention on comparing the two. We can see in both phases how a largely well-meaning Al ends up in a situation he didn’t foresee – firstly because his world is suddenly changed with the arrival of Paddy, later because the world he knew has gone, and he wants to claw back something that approximates to it. Owen’s prose captures the whirlwind of Al’s experiences, as he tries to find a place for himself, before life finds one for him.



POTTER YN Y PYB, Mawrth 2014 (http://bit.ly/1Kg1FpM)



LLWYD OWEN YN Y GADAIR, Pethe (S4C), Gorffennaf 2012 (http://bit.ly/1Kg1PgI)





LANSIAD UN DDINAS DAU FYD, Gwdihw, Mawrth 2011 (http://bit.ly/1MbqeXQ)





DEWI PRYSOR YN HOLI LLWYD OWEN, Palas Print, Ionawr 2008 (http://bit.ly/1igTX7q)




LANSIAD MR BLAIDD, Toucan Club, Caerdydd, Hydref 2009 (http://bit.ly/1KpF79F)




GWEFREIDDIOL, S4C, Awst 2015 (http://bit.ly/1KmFrla




Y CYFRYNGAU, Pethe (S4C), Hydref 2011 (http://bit.ly/1NwG0ho)




COWBOIS, Pethe (S4C), Hydref 2011 (http://bit.ly/1KRFUCf)





Adolygiad Beca Brown o MR BLAIDD (http://bbc.in/1QFGQZt

Disgrifwyd nofel ddiweddaraf Llwyd Owen, Mr Blaidd, fel "romp gynhyrfus o whodunit - math o thriller a dweud y gwir gan Beca Brown a fu'n adolygu'r nofel ar Raglen Dewi Llwyd, BBC Radio Cymru, Hydref 25 2009.
Ac er bod yna yr hyn a alwodd hi yn "gyfeiriad masweddus" ati hi yn bersonol yn un arall o nofelau Llwyd Owen yr oedd yn hael ei chanmoliaeth i'w bedwaredd nofel gan ei disgrifio fel un aeddfatech na'r tair blaenorol.
Fe'i disgrifiodd fel "stori dda fydd yn apelio at unrhyw un sy'n mwynhau stori dda gyda lot o droeon annisgwyl..."
"Ond dydi hi ddim at rai sydd â natur swil neu ddelicet...mae hi'n llawn rhyw a thrais a chyffuriau ac isfyd tywyll Caerdydd... ond mae hon yn aeddfetach nofel [na'r tair arall a sgrifennodd]. Mae'r genre yn dywyllach ond oherwydd ei bod yn whodunit mae'n fwy eang ei hapêl," meddai.
"Roeddwn i'n teimlo bod ei dair nofel ddiwethaf er yn dda iawn - dwi'n meddwl ei fod yn awdur ffantastig o ran gallu apelio at bobl na fuasent fel arfer yn darllen stwff yn y Gymraeg."
Ond disgrifiodd dair nofel gyntaf yr awdur fel rhai "boysie ofnadwy".
"A dydw i ddim yn dweud hynny jyst am bod yna gyfeiriad masweddus tu hwnt ataf i yn un o'i lyfra fo [Ffawd Cywilydd a Chelwyddau]" meddai.
"Mae o'n wahanol iawn [fel awdur], dyda chi ddim yn gweld llawer o stwff fel hyn yn y Gymraeg. Mae o'n medru saernïo plot yn ofnadwy o gelfydd. Mae rhywun wedi'i alw yn blotfeistr ac mae hynny'n sicr yn wir - am hon yn arbennig," ychwanegodd.
Dywedodd ei bod yn "wych o stori".
"Mae yna adegau yn y nofel pan ydych chi'n meddwl da chi'n gwybod be sy'n mynd i ddigwydd wedyn mae o'n rhoi rhyw dro arall . . . a da chi'n cicio'ch hun am fod mor slo. Mae o'n wych iawn am eich syrpreisio chi ," meddai.
Nofel yw hi am Fflur sy'n dod I gyrion Caerdydd o fferm ei rhieni i chwilio am ei chwaer Ffion sydd wedi diflannu
"Mae na lot o droeon annisgwyl; yr ydych chi'n meddwl eich bod yn gwybod i lle mae'n mynd ac mae'n cymryd tro annisgwyl arall nes eich bod chi bron a bod a cholli'ch gwynt," meddai.
"Mae'n gweithio'n wych fel stori ac mae themâu difyr iawn ynddi hi [gyda] hwiangerddi a straeon plant yn thema gyson drwyddi . . . ac mae pob pennod yn dwyn teitl neu linell o ryw hwiangerdd neu stori blant," meddai.
Er y peryg weithiau I'r awdur fynd yn or glyfar yn y cyfeiriad hwn dywed ei fod "yn ffrwyno ei hun gyda'r pethau hyn ac mae'r cyfan yn gweithio'n dda achos os yda chi'n meddwl am straeon plant traddodiadol a hwiangerddi mae yna ryw elfen sinistr a thywyll iawn i lot ohonyn nhw ac mae o'n cymryd llwyr fantais o hynny ac yn eu gweithio i mewn i'r nofel yn gelfydd iawn ac yn glyfar iawn heb dynnu sylw'n ormodol at y clyfrwch," meddai.
Disgrifiodd yr arddull fel Cymraeg cyhyrog with extra English ond gwrthododd gyhuddiadau o fratiaith.
Beca Brown














Adolygiad Gwenllian Grigg o MR BLAIDD (http://bit.ly/1QFHuGl)

Ie, dyna chi, Mr Blaidd. Hwnnw sy'n chwythu tai'r moch bach i lawr, yn bwyta Mam-gu a'r Hugan Goch Fach, yn llowcio'r dyn bach toes. Yn y stori hon, yn ninas Gerddi Hwyan mae e'n llercian. 

Ac fel yr Hugan Goch Fach yn mentro i'r coed, mae'r ddiniwed Fflur (un o'r prif gymeriadau) yn mentro o gefn gwlad i Erddi Hwyan. Chwilio am ei hefaill, Ffion, mae hi, wedi i hithau ddiflannu fis ynghynt, ac mae'r daith yn arwain Fflur i fyd tywyll treiswyr, puteiniaid, gwerthwyr cyffuriau a heddlu llwgr. 

Nid digwyddiadau o hwiangerddi a geir yn y nofel yma. Ar sawl ystyr, mae'n bortread real o'r isfyd tywyll mewn dinasoedd ar hyd a lled y byd. Fe ddilynwn ni Fflur wrth iddi gamu'n ddewr i ganol y peryglon er mwyn dysgu'r gwirionedd am ei chwaer. Ond gydag enwau fel y Blaidd a'r Ceffyl ar rai o'r cymeriadau, fe gawn ein cadw yn y tywyllwch ynglŷn â phwy yn union ydyn nhw. Dim ond wedi sawl tro yng nghynffon y stori y down ni i ddeall pwy yw'r dihirod, a beth yw eu tynged. 

Cyn darllen Mr Blaidd, dim ond un o nofelau Llwyd Owen roeddwn i wedi ei darllen, sef Ffawd, Cywilydd a Chelwyddau. Bu honno'n agoriad llygad, ac yn chwa o awyr iach – roedd hi mor wahanol i unrhyw beth arall i mi erioed ei ddarllen yn Gymraeg. Mae yn Mr Blaidd lawer o'r un arddull a'r un atynfa at ryw isfyd tywyll, a chymeriadau deuol (ddim i'r un graddau â Jekyll a Hyde efallai!). Cyhyd â'ch bod chi'n barod am iaith a disgrifiadau cignoeth – mae gwledd o stori o'ch blaen. 
Gwenllian Grigg 















Adolygiad Llion Iwan o Yr Ergyd Olaf  (http://bit.ly/1KmHIwI)

Dyma’r drydedd nofel i’r awdur ifanc o Gaerdydd, Llwyd Owen, ei chyhoeddi mewn cwta ddwy flynedd, ac mae’r bedwaredd eisoes yn cael ei pharatoi yn ogystal â sgript deledu wedi’i seilio ar ei nofel gyntaf. Ond nid awdur toreithiog yn unig mohono; mae hefyd yn medru creu storïau a golygfeydd na welir mo'u tebyg mewn nofelau eraill yn y Gymraeg. Fe gafodd dipyn o sylw am yr iaith mae’n ei defnyddio, ond dylid cofio, uwchlaw popeth arall, mai awdur a storïwr dawnus ydi Llwyd, pa bynnag iaith neu arddull y dewisa ysgrifennu ynddi. 

Ar glawr y nofel ceir broliant gan awdur arall, Dewi Prysor, sydd yn gofyn, neu’n datgan, mai dyma’r Tarantino Cymraeg. Dwi’n anghytuno. Nid yw Llwyd Owen yn awdur tebyg i’r cyfarwyddwr a’r sgriptiwr o America, ond dwi’n credu’n gryf ei fod yr agosaf sydd gennym yn y Gymraeg i’r Albanwr, Irvine Welsh. Mae nifer o olygfeydd yn y gyfrol yma, yn enwedig, yn fy atgoffa yn gryf o arddull a dychymyg yr Albanwr poblogaidd. Yn wir, roedd un olygfa arbennig yn un o’r rhai mwyaf dychrynllyd imi ei darllen erioed, mewn unrhyw iaith. 

Roedd nofel gyntaf Llwyd wedi gwneud imi chwerthin tipyn, tra oedd yr ail wedi gwneud imi feddwl a chymryd pwyll wrth ei darllen, ac ystyried yn ddwys beth fuaswn i wedi'i wneud mewn sefyllfa debyg. Nofel wahanol iawn ydi hon. Yn gyntaf, mae hi dipyn yn llai; mae hi hefyd yn fwy cymhleth, er bod y plotio mor gyfrwys a gofalus ag erioed. Ond mae arddull Llwyd wedi newid hefyd, gan ddangos ochr dipyn yn fwy disgybledig, gyda mwy o ôl tocio a golygu ar y testun. Ac yn sgil y cynildeb hwn, mae’r nofel yn gryfach na’i rhagflaenwyr, ie, hyd yn oed y gyfrol a enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn iddo yn 2007. 

Paentia Llwyd olygfeydd o’r isfyd tywyll sydd yn bodoli o’n hamgylch bob dydd, ond ein bod yn dewis peidio â’i weld na’i glywed. Ond mae Llwyd wedi sylwi ac yn creu cymeriadau byw o’r byd yma. 

Hanes ergydiwr, hitman, assassin sydd yma, yn troi mewn isfyd diflas a pheryglus. Hiraetha am ei fam a’i fwriad yw dial ar yr un a’i llofruddiodd a chanfod hapusrwydd. Haws dweud na gwneud, ac ar ei daith i geisio gwireddu'i freuddwyd rhaid canfod y gwir, wynebu a threchu’r llofrudd – ond heb gondemnio ei hun chwaith. Caiff ei fradychu a rhaid dewis a yw am gynnig cymorth i blentyn amddifad arall sydd ar goll yng Nghaerdydd. Cawn ein 'sgubo 'mlaen gan rym y naratif, o Gaerdydd i fferm unigryw yng nghefn gwlad, ac roedd yn rhaid imi ddarllen hon o glawr i glawr heb stop. Mae’n dangos fod un o awduron disgleiriaf Cymru yn gweithio’n galed ar ei grefft, a’r darllenydd yn y pen draw sydd yn elwa o’r gwaith caled yma.
Llion Iwan










Adolygiad Kate Crockett o YR ERGYD OLAF (http://bbc.in/1gtWLgc)

Bu'n daith ryfeddol o fyr i Llwyd Owen o fod yn enfant terribley byd cyhoeddi, i gamu i lwyfan gwesty'r Hilton i dderbyn gwobr Llyfr y Flwyddyn am ei ail nofel, Ffydd Gobaith Cariad, yn gynharach eleni. 

Mae'r croeso a gafwyd i'w ddwy nofel gyntaf yn profi nad yw'r sefydliad llenyddol Cymraeg mor geidwadol ag y mae rhai'n credu ac nid yw defnydd Llwyd Owen o "fratiaith" na'i ysgrifennu cignoeth am ryw, cyffuriau a thrais yn ddigon i godi aeliau fawr neb heblaw am Gwilym Owen bellach. 

Mae'r llwyddiant wedi golygu bod Llwyd Owen wedi gallu ymroi i'r hyn yr oedd yn ei ddymuno ei wneud, sef ysgrifennu yn gyson, ac mae'n braf gweld trydedd nofel ganddo yn ymddangos o'r wasg o fewn llai na dwy flynedd. 

Wedi dweud hynny, mae ambell i wall cysodi, sillafu, a threiglo yn ei nofel ddiweddaraf sy'n awgrymu efallai iddi gael ei rhuthro o'r wasg ar gyfer y farchnad Nadolig. 

Ond go brin y bydd hynny'n amharu gormod ar fwynhad y rhan fwyaf fydd yn darllen y nofel. 

Yn chwithig
Ni fydd gwaith Llwyd Owen fyth yn debygol o blesio'r rhai sy'n dymuno darllen Cymraeg coeth: mae llawer o'i frawddegau yn darllen fel cyfieithiadau uniongyrchol o'r Saesneg ac mae ei ddefnydd o ambell air yn taro'r glust yn chwithig. 

Ond nid ysgrifennu Cymraeg graenus yw ei flaenoriaeth. 
Plotiwr yw Llwyd Owen yn bennaf oll ac un sy'n llwyddo i argyhoeddi gyda stori sy'n torri tir newydd eto o ran testun i nofel Gymraeg. 

Er bod ei ddwy nofel gyntaf wedi'n cyflwyno ni i isfyd Caerdydd, roedd y prif gymeriadau yn deipiau digon cyfarwydd yn y Gymru Gymraeg: cyfryngis a chyfieithwyr. 

Mewn isfyd
Mae Yr Ergyd Olaf yn ein tynnu ymhellach fyth i'r isfyd, ac er bod y prif gymeriadau'n Gymry Cymraeg, go brin eu bod y math o bobl byddem yn disgwyl eu cyfarfod yng Nghlwb Ifor Bach. 

Ergydiwr, neu lofrudd cyflogedig, yw Tubbs, y prif gymeriad, mab i Foxy, putain o Abertawe. Mae ei fentor, T-Bone, yn bennaeth ar gang o feicwyr, a'i gyfaill, Luca Parenti, yn Eidalwr o Geredigion sy'n cyfuno gyrfa fel un o sêr cerddorol mwyaf yr Eidal gyda thyfu canabis mewn planhigfa yn ei blasty ger Aberporth. 

Camp Llwyd Owen yw ein galluogi i gredu yn y cymeriadau hyn er gwaetha'u cefndir annhebygol ac, yn wir, mae rhywun yn rhyfeddu at ei allu i greu cymeriadau sy'n groes i'r disgwyl. 

Awydd Tubbs i ddial am lofruddiaeth ei fam yw craidd y nofel. Mae'n stori sy'n gafael yn syth, wrth i Llwyd Owen wau'r gwahanol olygfeydd a'r gwahanol gyfnodau ym mywyd Tubbs i greu cyfanwaith cyffrous. 

Mae hwn yn waith byrrach a thynnach na'i nofelau blaenorol ac mae'n amlwg yn datblygu fel awdur gyda phob llyfr. 

Dylanwad Tarantino
Unwaith eto mae dylanwad ffilmiau Quentin Tarantino i'w gweld yn gryf ar y gwaith, yn arbennig yn y golygfeydd graffig o drais. 

Eto hefyd, mae'n defnyddio lleoliadau daearyddol go iawn sy'n ychwanegu at yr elfen ffilmig, wrth i'r digwydd ddod yn fyw yn nychymyg y darllenydd. 

Mae'r ddau ddihiryn comig, Vexl a Gimp, yn sicr yn haeddu cael eu portreadu ar seliwloid. 

Mae gwaith llenyddol Llwyd Owen wedi'i groesawu yn gyflym iawn, a bydd Yr Ergyd Olaf yn sicr o blesio'r rheiny sydd wedi gwirioni ar ei ddawn fel storïwr. 

Y cwestiwn i'w ystyried nawr yw a yw Cymru'n barod am y ffilmiau? 
Kate Crockett











Adolygiad Kate Crockett o FFYDD GOBAITH CARIAD (http://bit.ly/1KiIw8M)

Yn dynn ar sodlau ei nofel gyntaf, Ffawd, Cywilydd a Chelwyddau, daw ail nofel Llwyd Owen, Ffydd, Gobaith, Cariad. Unwaith eto mae’r nofel hon wedi’i gosod yn y brifddinas, ond nid bywyd bras y cyfryngis sydd o dan sylw y tro hwn, ac mae’r arwr, Alun Brady, yn annhebyg iawn i Luc Swan, prif gymeriad y nofel gyntaf honno. Mae ei fywyd saff, undonog yn troi o gwmpas y teulu a’u cartref yng Nghyncoed, ond pan ddaw ei dad-cu oedrannus i fyw atyn nhw oherwydd gwaeledd, mae pethau’n newid, ac unwaith eto, cawn ein llusgo i ganol bywyd llai parchus y ddinas: selogion y tafarndai, y troseddwyr mawr a mân, a’r pedlwyr cyffuriau. 

Mae’r nofel yn agor gyda disgrifiad grymus o ddamwain car, ond ni chawn wybod tan y diwedd beth yw cefndir y ddamwain. Mae’r nofel wedi’i strwythuro yn arbennig o gelfydd gan osod dwy stori ochr yn ochr: cawn bennod yn disgrifio bywyd Alun ag yntau newydd ddod allan o’r carchar, ac yna pennod yn egluro'r digwyddiadau a’i hanfonodd yno yn y lle cyntaf. Beth ar wyneb daear yrrodd cymeriad mor sidêt i droseddu? Hynny, a dirgelwch y ddamwain car sy’n sbarduno diddordeb y darllenydd, ac mae’r ddwy stori yn cydio’n gryf yn y dychymyg. 

Roedd nofel gyntaf Llwyd Owen yn tour de force go iawn, a llwyddodd ei ddisgrifiadau cignoeth o ryw a thrais, a’i iaith gref, ansafonol, i ddenu beirniadaeth ar y naill law, a llawer o ddarllenwyr brwd ar y llaw arall. Efallai na fydd arddull Llwyd Owen yn plesio’r rhai sy’n darllen er mwyn gwerthfawrogi iaith goeth, ond mae yna lawer o ddarllenwyr sy’n awchu am y math yma o nofel ddinesig, sy’n disgrifio byd sy’n debycach i Gaeredin Irvine Welsh neu i ffilm gan Quentin Tarantino nag i’r hyn a gawn fel arfer mewn nofelau Cymraeg. Mae Llwyd Owen yn storïwr penigamp, sydd wedi llwyddo unwaith eto i ddod â bywyd Caerdydd yn weledol fyw ar y dudalen. Bydd y ffaith fod yma lai o elfennau ‘ych a fi’ yn siomi rhai, ac yn rhyddhad i eraill, ond mae Ffydd, Gobaith, Cariad yn aeddfetach na’i nofel gyntaf. Gallwn ond gobeithio bod y ffaith mai dyma’r ail nofel i Llwyd Owen ei rhyddhau o fewn llai na blwyddyn yn arwydd bod llawer mwy i ddod eto gan yr awdur talentog hwn. 



Adolygiad Carys Mair Davies o FFYDD GOBAITH CARIAD (http://bbc.in/1Oh1YGP)

Dyma nofel lesmeiriol wedi'i hysgrifennu gan blot feistr heb ei ail!!
Mae Alun Brady, dyn ar drothwy ei 30 oed, wedi byw bywyd tawel, di-nod a chysgodol yng nghartref crand ei rieni yn un o faestrefi mwyaf cefnog Caerdydd.
Ond, pan ddaw Patrick, ei dad-cu direidus, i fyw - ac i farw - yng nghartref Alun a'i rieni dyma ddechrau newidiadau enfawr ym mywyd y dyn ifanc.
Mae Ffydd, Gobaith, Cariad gan Llwyd Owen yn llawn cymeriadau lliwgar, plotio gwreiddiol a diweddglo cofiadwy - sylfaen pob nofel rymus.
Mae hefyd yn esblygiad naturiol o nofel gyntaf yr awdur, Ffawd, Cywilydd a Chelwyddau. Wedi ei hysgrifennu yn gyfan gwbl trwy lygaid Alun Brady, mae'r nofel yn ddirdynnol gyda datblygiadau annisgwyl ac anhygoel. Yn archwilio themâu cyfoes mae'n nofel am undonedd bywyd a'r pethau bach - a mawr - sy'n tarfu ar y tawelwch.
Er bod y cymeriadau sydd i'w canfod yn y nofel yn rhai lliwgar a chofiadwy nid yw yr un ohonynt yn hoffus iawn; ond pe byddwn yn gorfod dewis hoff gymeriad, buaswn yn dewis rhieni Alun Brady.
Dewisaf hwy am iddynt neilltuo eu bywydau i ofalu am dad-cu'r nofel; gweithred hollol anhunanol sy'n amlygu'r ffaith eu bod yn Gristnogion sy'n dilyn Gair Duw.
Nid oes lle blaenllaw iddynt yn natblygiad plot y nofel - ond mae eu cymeriadau llym hwy yn rhoi syniad i'r darllenwr sut mae magwraeth Alun wedi effeithio ar ei bresennol a'i ddyfodol.
Dim ond un gwendid sydd yna, a hynny ar y dechrau gyda'r agoriad yn llawer rhy dreiddgar ac felly mewn peryg o wneud i'r darllenwyr roi'r gorau iddi heb gyrraedd yr ail bennod.
Dyna wnes i a bu'n agos i flwyddyn cyn imi ailgydio - ac rwy'n sobor o falch imi wneud hynny!
Ni fuaswn yn argymell y nofel hon i bobl o dan 14 oed oherwydd ei iaith anweddus - ar bron bob dalen.
Ni fuaswn yn ei hargymell ychwaith ond i bobl sy'n gwir fwynhau darllen deunydd Cymraeg gan fod angen treiddio'n ddwfn a darllen llawer rhwng y llinellau.
Bu'n rhaid i mi yn 16 oed roi dau gynnig ar ei darllen i'w deall yn iawn.
Ond rwy'n erfyn arnoch i ddarllen y nofel sy'n haeddiannol o bob canmoliaeth ac yn un o'r nofelau gorau yn y Gymraeg!
Edrychaf ymlaen yn awr at ddarllen nofel gyntaf Llwyd Owen,Ffawd, Cywilydd a Chelwyddau.



FFYDD GOBAITH CARIAD – LLYFR Y FLWYDDYN 2007 (http://bit.ly/1Lj0CJU)












Enillydd Llyfr y Flwyddyn 2007 yw Llwyd Owen am ei gyfrol  Ffydd, Gobaith, Cariad  (Y Lolfa). Enillwyd y wobr Saesneg gan Lloyd Jones am ei nofel  Mr Cassini  (Seren).

Nos Lun 9 Gorffennaf 2007 yng Ngwesty’r Hilton, Caerdydd cyflwynodd Cadeirydd yr Academi, Harri Pritchard Jones siec o  £10,000 i’r awdur  Llwyd Owen  am ei nofel  Ffydd Gobaith Cariad  (Y Lolfa) a wobrwywyd yn  Llyfr y Flwyddyn 2007.
Ffydd Gobaith Cariad  yw ail nofel  Llwyd Owen ,  brodor o Gaerdydd sy’n byw yn ardal Parc Buddug y ddinas gyda’i wraig a’i ferch fach. Mae wedi cyhoeddi barddoniaeth, ffotograffau ac erthyglau mewn cylchgronau amrywiol dros y blynyddoedd diwethaf.  Fel ei nofel gyntaf, y mae’r nofel rymus hon hefyd wedi’i gosod yn y brifddinas ac yn llawn datblygiadau annisgwyl ac anhygoel.
Y ddwy gyfrol arall ar y Rhestr Fer oedd Dygwyl Eneidiau gan  Gwen Pritchard Jones  (Gwasg Gwynedd) ac Un Bywyd o Blith Nifer gan  T. Robin Chapman  (Gwasg Gomer).
Yr enillydd yn Saesneg yw  Lloyd Jones  am ei lyfr  Mr Cassini  (Seren).



Llwyd Owen yn Cipio Gowbr Llyfr y Flwyddyn (http://bit.ly/1Kje2S2
Mewn seremoni yn yr Hilton yng Nghaerdydd cyhoeddwyd mai Ffydd Gobaith Cariad yw Llyfr Cymraeg y Flwyddyn, 2007. Yr awdur yw Llwyd Owen a ddywedodd y bydd yn defnyddio'r £10,000 o wobr i brynu 'camper van'!

Mae Ffydd Gobaith Cariad yn nofel sy'n archwilio themâu megis marwoldeb, brad a chyfeillgarwch mewn ffordd onest a dirdynnol gan godi cwestiynau am gredoau, crefydd a chariad.

Mae llawer o'r deunydd yn seiliedig ar yr hyn dystiodd yr awdur wrth wylio ei fam-gu'n diodde ar ei gwely angau. Yn ôl Llwyd: “Roedd Kitty'n ffeindio lot o gysur yn ei chrefydd, yn enwedig yn ystod ei blynyddoedd diwethaf, a 'naethon ni drafod pynciau dwys fel byw a marw, cariad a cholled, yn ogystal a'i hatgofion yn aml. Heb os, mae hi wedi ysbrydoli rhannau helaeth o'r nofel, ac mae'r llyfr yn rhyw fath o deyrnged iddi hi.”

Mae'r awdur hefyd yn datgelu fod bywyd Alun Brady, prif gymeriad y nofel, yn adlewyrchu rhai agweddau o'i fywyd e, gydag Alun yn ffeindio gwaith yn nhafarn y Three Arches, Caerdydd, fel nath Llwyd rhyw ddegawd yn ôl. Yn ogystal, mae ambell i chwedl deuluol yn lliwio'r hanes â bysedd coll Spencer Owen, tad-cu Llwyd, yn gwneud ymddangosiad. 

Bydd Y Lolfa yn cyhoeddi trydedd nofel Llwyd Owen ar gyfer y Dolig. 

Dyma'r drydedd flwyddyn o'r bron i gyfrol gan Y Lolfa gipio Gwobr Llyfr y Flwyddyn. Mae Llwyd Owen yn dilyn ol traed dau awdur ifanc disglair arall sef Rhys Evans a Caryl Lewis. 


Adolygiad Gwales o FFAWD CYWILYDD A CHELWYDDAU (http://bit.ly/1Oh2FQp)

Fe ddylai'r nofel hon achosi daeargryn. Mae hi'n hollol wahanol i unrhyw beth rydym wedi ei ddarllen yn y Gymraeg o'r blaen. Saunders Lewis ddywedodd rywbryd y dylem 'wneud yn fawr o bechod'. Wel, mae Ffawd, Cywilydd a Chelwyddau yn gwneud i'w Monica ef ymdebygu i werslyfr Ysgol Sul i blant bach. 

Nofel am Gaerdydd sydd yma ac fe gyhoeddwyd cyfrolau arwyddocaol am y lle hwnnw cyn hyn. Daw Bob yn y Ddinas, Siôn Eirian, a Dyddiadur Dyn Dŵad, Goronwy Jones i'r cof. Ond mae campwaith Llwyd Owen mewn byd ar wahân. Rhywsut, mae ei draed ef wedi suddo'n ddyfnach i goncrid y brifddinas, ac mae wedi cael hwyl anarferol ar fynd dan groen ein ffug warineb, i ddatgelu’r rhagrith a'r bwystfileiddiwch yn ein cymdeithas. 

Nid pawb fydd yn hapus gyda'r budreddi, y disgrifiadau rhywiol graffig, a'r bratiaith. A bydded i'r sawl sy'n mwynhau cerddoriaeth y Boy Bands, er lles eu hiechyd, ymatal rhag pori rhwng y cloriau. Ymhellach, o ddarllen y llyfr, rwy’n siŵr y bydd unrhyw riant dosbarth canol, gofalus ac uchelgeisiol, yn meddwl ddwywaith cyn annog eu hepil i gynnig am swydd yn y cyfryngau. 

Synhwyraf fod cryn olygu wedi bod ar y nofel ers iddi gael ei hanfon i gystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen llynedd. Nid oes dim o'i le ar hynny. Dyna briod waith golygyddion. Yr hyn sy'n drawiadol am yr ysgrifennu yw'r egni aruthrol a berthyn iddo. Mae yna bendilio parhaus o'r doniol i'r dwys (fel yn y bennod am y rhaglen Siôn a Siân), ac yn raddol fe ddatgelir y tristwch sobreiddiol sy'n sail i'r stori. 

Gyda'r Diafol yn chwarae rhan mor ganolog yn yr hanes cawn ein hatgoffa'n aml o Weledigaethau'r Bardd Cwsg a'r holl ddychan sydd i'w gael yn y llyfr hwnnw. Mae yna weledigaethau yr un mor uffernol yn y nofel hon. Heb os, Llwyd Owen yw Ellis Wynne yr unfed ganrif ar hugain. 
Dafydd Morgan Lewis













Adolygiad Rhodri Ll Evans o FFAWD CYWILYDD A CHELWYDDAU (http://bbc.in/1gtZ8zy)

Athrylithgar. Budr. Gwych. Gwarthus.
Arloesol. Di-chwaeth. Herfeiddiol.
Gwan. Crefftus. Di-raen.
Amrwd. Masweddus. Ffres. Amharchus. Campus. 

Rhai o'r ansoddeiriau a ellir eu defnyddio i ddisgrifio nofel gyntaf Llwyd Owen - mae'r cyfan yn dibynnu ar eich chwaeth bersonol.

Fy hun, ni allaf beidio a'i chanmol. O'r diwedd, mae'r Nofel Gymraeg yn mentro blasu pleser a phechod y ganrif newydd! 

Luc Swan. 
Ein prif gymeriad a gwrtharwr trasig y stori. Mae wedi syrffedu'n lân ar ei swydd fel rhedwr i gwmni cynhyrchu.
•  Mae ei elyn pennaf (ei fos) yn mwynhau pleserau'r cnawd gyda'r ferch y mae'n ei ffansïo.
•  Mae ei dad mewn cartref i'r gwallgof.
•  Mae'n gor-yfed. Mae'n gor-ysmygu. Mae'n arbrofi â chyffuriau.
•  Mae ganddo broblemau 'down belô' ac i goroni'r cyfan, mae'n gorfod bod yn gi bach i fand pop mwyaf hunan-ganolog Cymru. 
Nid yr arwr confensiynol, felly. 

Cyfarfod â'r Diafol
Er yn nofel real iawn ar adegau, mae rhannau ohoni'n swrrealaidd iawn. 

Trwy gydol y stori, mae sôn cyson am gymeriadau gwahanol yn ceisio cyfarfod â'r Diafol ac yn ceisio bargeinio ag o. 

Gallaf ddeall sut y buasai rhai yn gweld y rhannau hyn yn chwithig mewn nofel sydd i fod yn trafod bywyd pob dydd ond eto i gyd, o fewn strwythur stori - ble mae iselder ysbryd, insomnia a pharanoia'n themâu amlwg - credaf i'r darnau hyn weddu'n eithaf rhwydd. 

Hynny yw, yn nhywyllwch eithaf iselder, gall y digwyddiadau mwyaf swrrealaidd ac absẃrd ymddangos yn rhai real iawn. 

Gwau'n grefftus
Hoffais y modd yr oedd y stori wedi ei gwau'n grefftus a sut y mae hi'n llwyddo i gyflwyno storïau'r cymeriadau eraill o fewn ei fframwaith - hynny heb dorri ar gynfas stori Luc ei hun. 

Mae'r naratif yn llifo'n esmwyth o'r person cyntaf i'r trydydd person heb unrhyw drafferth. 

Yn y bôn, yr un llais sy'n adrodd y stori gyfan - llais Luc - ond mae'r darnau trydydd person yn caniatáu inni gael cipolwg ar y cymeriadau eraill - a hynny heb bellhau'n ormodol oddi wrth stori'r prif gymeriad. 

Cawn ein tywys yn ôl i blentyndod Luc a gweld sut y cafodd rhai digwyddiadau erchyll effaith barhaol arno ac maent yn fodd effeithiol o geisio ateb pam fod 'Luc yr oedolyn' yn teimlo mor annigonol, mor anhapus ac mor ddig. 

Yn hyn o beth, rydym yn cydymdeimlo ag o ac mae rhyw rym rhyfedd yn peri i ni ddal ein gafael ar y cydymdeimlad hwnnw hyd at ddiwedd y stori. 

Dawn arbennig
Mae gan yr awdur ddawn arbennig i greu cymeriadau credadwy a hynny heb ddefnyddio gormodedd o ddisgrifiadau a heb fod yn ystrydebol. 

Roeddwn yn coelio ynddynt - Whitey, Doc, Emlyn a Cariad - a theimlais eu bod yn bobl go iawn. 
Dichon eu bod! 

Dod yn ail
Ffawd, Cywilydd a Chelwyddau oedd y gwaith a ddaeth yn ail yng Nghystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eryri y llynedd. 

O ran gwreiddioldeb y stori, mae'n debyg mai hon fuasai wedi ennill y gystadleuaeth ond roedd un maen tramgwydd yn ei hatal rhag cipio'r brif wobr - iaith ei mynegiant. 

Gallaf gydymdeimlo'n fawr â beirniaid y gystadleuaeth honno oherwydd rwyf mewn ychydig o gyfyng-gyngor fy hun ynghylch hyn. 

Bratiaeth Caerdydd
Mae wedi ei hysgrifennu ym mratiaith Caerdydd a chyda'r fratiaith honno y daw popeth - defnydd helaeth o'r Saesneg, rhegi (yn Saesneg yn bennaf), cystrawennau llafar, dylanwad ymadroddion Saesneg a.y.y.b. 

Hynny yw, popeth sy'n cael ei gondemnio'n angerddol gan athrawon o'r lefel gynradd ymlaen! 

Gwir, mae llawer o'n nofelau diweddar yn dilyn patrwm eithaf tebyg ond yn y rheini, nid yw'r Saesneg yn gymaint o bresenoldeb a phan ddefnyddid y Saesneg ynddynt, roedd fel arfer wedi ei argraffu mewn italig. 

Pe gwnaed hynny yn Ffawd... yna buasai dros ei hanner yn italig ac yn bersonol, rwy'n credu y buasai hynny'n atal llif ei mynegiant yn sylweddol. 

Yn y pen draw, os ydym yn llwyr dderbyn y stori, yna dylem dderbyn y modd y mae'r prif gymeriad yn dewis mynegi ei hun. 

Er hyn, weithiau cefais fy hun yn darllen gair Saesneg fel gair Cymraeg a gorfod ail-ddarllen y frawddeg honno er mwyn parhau. 

Yn bersonol, rwy'n credu mai ei mynegiant fydd, o bosib, yn gyfrifol dros ei ffawd - a fydd yn cael ei chyfarch fel chwa o fywyd newydd i'r nofel Gymraeg ynteu ei halltudio i ddyfnderoedd yr 'annerbyniol' neu beidio. 
Amser a ddengys...

Holl regi
Gallaf ragweld gyda pheth hyder y bydd rhai'n ei beirniadu am gynnwys yr holl regi - er y rhybudd ar y clawr. 

Yn bersonol, roeddwn i yn derbyn mynegiant Luc. Roeddwn yn clywed ei lais ac felly, i mi, nid oedd y rhegfeydd yn ddim ond rhan o'i gymeriad. 

Goddefgarwch yw'r rhinwedd y mae'n rhaid i'r darllenydd werthi wrth ddarllen y nofel hon. Rhaid derbyn bod y math yma o fyd yn bodoli o dan groen melys y Cyfryngau a'r Ddinas ac rwy'n hynod falch i'r nofel hon ddatgelu bodolaeth y byd hwnnw - a'i feirniadu. 

Yn bersonol, roeddwn wrth fy modd yn plymio i fyd tywyll Luc - byd doniol, byd dychanol, byd dig, byd chwerw, byd unig a byd trist. 

Mwynheais Ffawd, Cywilydd a Chelwyddau yn fawr. 
Mae hon yn nofel arloesol - o ran gwreiddioldeb ei stori ac o ran ei mynegiant unigryw. Dylid ei derbyn â chroeso brwd. 


Tu Chwith – Gwerin (Cyfrol 25)



Tu Chwith – Egni (Cyfrol 26)




Tu Chwith – Newid (Cyfrol 27)





Taliesin – Cyfrol 127 (Gwanwyn 2006)



Taliesin – Cyfrol 134 (Haf 2006)





A470 - Hydref 2006



Barn - Tachwedd 2006


Golwg - 15 Hydref 2009



BLOWN - Issue 2 (2011)


Y Dinesydd - Ebrill 2011



Barn - Ebrill 2011



South Wales Echo - February 2011



Wales on Sunday - February 2011


Western Mail - Mawrth 2011




Y Cymro - Mawrth 2011




Golwg - Mawrth 2011


NINNAU - April 2011



Golwg - Hydref 6 a Hydref 13 2011



Faith Hope & Love - Bookmark




Golwg - 9 Hydref 2014






Golwg - 15 Tachwedd 2012







Golwg - 18 Hydref 2007




Golwg - 27 Ebrill 2006










Faith Hope & Love - Launch Poster




Golwg - 10 Hydref 2013



NINNAU - June 2011



Barn - Mawrth 2006




Buzz Magazine - August 2010


Golwg - 24 Chwefror 2011





Flyer Lansiad Ffawd Cywilydd a Chelwyddau





Golwg - Chwefror 2006





Red Handed Magazine - Summer 2010





Golwg - Hydref 2006




Golwg - Mai  2006



Holiawdur - Mawrth 2006



Llen y Lli - Hydref 2011





Western Mail - 11 March 2006





Y Dinesydd - Ebrill 2006



Western Mail - 11 Mawrth 2006




Western Mail - 2011



Y Cymro - 14 Ebrill 2006




Y Cymro - 17 Mawrth 2006


Adolygiad Dewi Prysor o 'Ffydd Gobaith Cariad' - Golwg, 7 Rhagfyr 2006



Adolygiad Llwyd Owen o 'Brithyll' gan Dewi Prysor - Golwg



Llyfr y flwyddyn 2007:
Alun Jones, fy ngolygydd, a fi yn dathlu ennill  Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2007
Lefi Gruffydd, bos Y Lolfa, a fi yn dathlu ennill  Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2007
Western Mail - 4 august 2007
Western Mail - 10 July 2007
Western Mail - June 2007
Y Cymro - Mawrth 2007
Yr Herald Cymraeg - Mehefin 2007
Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn 2007

Yr Herald Cymraeg - Mai 2007









Culture Vulture - Western Mail, Chwefror 2007


Deunydd hyrwyddo Llyfr y Flwyddyn 2008





Golwg - 16 Tachwedd 2006



Golwg - Hydref 2009



Poster Lansiad Ffydd Gobaith Cariad




Poster Lansiad Yr Ergyd Olaf




Western Mail - Hydref 2009





Lawr yn y Ddinas - Gorffennaf 2008







Western Mail - Medi 2008




Taliesin, Cyfrol 156 (Gaeaf 2015)







Tu Chwith, Cyfrol 36 (Gwreiddiau)

















The Last Hit - Promotion Material